top of page

2021/22

Mawrth ac Ebrill 2022

Ym mis Mawrth, aethom am noson taflu bwyell yn ‘The Snake Room’ yn Aberystwyth. Anodd oedd cael y fwyell ar y bwrdd, ond er hynny, roedd ambell i ‘bullseye’ wedi ei daro, ac roedd yn braf rhoi cynnig ar weithgaredd hollol newydd. Cawsom noson Escape Room yr wythnos ganlynol yn y Clwb Bowlio ym Machynlleth, lle roedd yn rhaid i ni ddatrys posau gan y cwmni ‘jengyd’. Roedd hon yn noson hwyliog iawn a llwyddodd pob tîm i gwblhau’r dasg! Yr wythnos ganlynol, cawsom noson gwis a pheint yn NhÅ· Cemaes.

Gan gyrraedd mis Ebrill, aethom i Fathafarn, Llanwrin i ymweld â’r ffarm odro, ac roedd yn hynod ddiddorol gweld y datblygiad newydd hwn. Yn dilyn hynny aethom i ffarm Cerrigcaranau ger Tal y Bont i ymweld â ffarm odro arall. Roedd dysgu am y busnes ‘Llaeth Jenkins’ yn ddifyr tu hwnt ac yn agoriad llygad i’r posibiliadau o greu busnes lleol, ac roedd cael profi eu cynnyrch yn fonws blasus! Bu’r ddau ymweliad yma yn addysgiadol iawn, a dymunwn yn dda i’r ddau deulu yn eu menter.

Rhwng y gwyliau banc, cawsom noson chwaraeon, gan chware rownderi yng nghae rygbi Machynlleth, cyn cael diod yn y clwb rygbi. Braf oedd cael noson hamddenol o chwarae gemau a sgwrsio cyn i baratoadau’r Rali ddechrau o ddifrif ym mis Mai!

​

Chwefror 2022

Mae mis arall wedi mynd heibio, ac mae clwb ffermwyr ifanc Bro Ddyfi wedi cynnal rhagor o nosweithiau hwyliog.

Daeth Mark Saunders o Cambrian First Aid i gynnal gweithdy dwy noson o hyfforddiant cymorth cyntaf ar ddechrau’r mis. Roedd yn addysgiadol iawn, ac yn agoriad llygad i bwysigrwydd cymorth cyntaf. Diolch yn fawr i ‘Mind Cymru’ am y grant i gwblhau’r hyfforddiant hynod ddiddorol. Erbyn hyn, mae’r rheini a gymerodd rhan wedi derbyn tystysgrif am yr hyfforddiant.

Yna cynhaliwyd noson gyda’r bwriad o wylio ffilm yng Nghanolfan Glantwymyn, ond erbyn dod i ddewis ffilm, penderfynom wylio cyfres ‘Jeremy Clarkson’s Farm’. Yr wythnos ganlynol, cawsom noson hamddenol o chwarae darts a gemau pŵl yng nghlwb Rygbi Machynlleth dros beint a phaced o greision. Y nos lun yn dilyn hynny, aethom i wneud ‘lazer shooting’ a chwarae bowlio deg yn y Drenewydd.

​

Rhagfyr 2021

I ddechrau gweithgareddau mis Rhagfyr fe gawsom noson gwis yn y Penrhos a drefnwyd gan rai o’n harweinwyr. Roedd yn noson hwyliog a’r cwestiynau yn rhai difyr iawn. Wythnos yn ddiweddarach fe fuom yn crwydro’r ardal yn canu carolau, ac fe lwyddom i gasglu £255 tuag at Uned Chemotherapi Bronglais. Diolch i bawb am gyfrannu.

 

Gyda thon arall o COVID yn ein taro, yn anffodus bu rhaid i ni ohirio Parti ‘Dolig y clwb ar y funud olaf. Roedd hyn yn benderfyniad anodd, ond roedden ni’n credu ei bod hi’n well bod yn saff, ac mae’n rhaid i ddiogelwch ein haelodau ddod yn gyntaf. Gobeithiwn y cawn ei gynnal eto pan fydd yr amgylchiadau yn caniatáu.

Ni fu mwy o weithgareddau o fewn y clwb cyn y flwyddyn newydd ond fe gafodd Ilan, Dyfan a Lliwen gyfle i gymryd rhan ym Mhantomeim CFFI Cymru a gafodd ei ddarlledu ar S4C nos galan gydag Ilan a Dyfan yn chwarae’r ddau ddihiryn, ‘Drwg’ a ‘Gwaeth’.

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd a chadwch yn saff!

​

Tachwedd 2021

Bu’r mis diwethaf yn un prysur, rhwng yr Eisteddfod Sir a’r Eisteddfod Genedlaethol, a nosweithiau eraill o fod gyda’n gilydd fel clwb. I ddechrau dyma restr o lwyddiant y clwb yn yr Eisteddfod Sir:

Daeth y clwb yn ail ar y cyfan gyda chlwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banw yn cipio’r wobr gyntaf. Cawsom ail gyda’r parti Unsain, y parti Llefaru a’r Meimio i Gerddoriaeth, a chyntaf gyda’r sgets.

Eto eleni fe gafodd Lliwen Glwys llawer o lwyddiant, fe enillodd Cadair yr Eisteddfod am y bedwaredd flwyddyn yn olynol am ei gwaith rhyddiaith. Cafodd gyntaf gyda’i Limrig, cyntaf gyda’i gwaith Celf a Chrefft, a chyntaf yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol 28 ac iau. Yn y gystadleuaeth Stori a Sain, cafodd Lliwen ac Elin Haf ail, ac fe gafodd Lliwen drydydd ar y gystadleuaeth Canu Emyn. Person prysur a llwyddiannus yn amlwg.

Daeth llwyddiant hefyd i’w brawd mawr Ilan. Ennillodd y gystadleuaeth Canu Emyn a’r Unawd 28 ac iau. Cafodd hefyd ail yn y gystadleuaeth Unawd Sioe Gerdd 28 ac iau.

Llongyfarchiadau hefyd i Dyfan Parry Jones a Catrin Aur. Cafodd Dyfan ail yn y gystadleuaeth Canu Emyn, a thrydydd gyda’r Unawd Sioe Gerdd 28 ac iau. Roedd Catrin wedi cael trydydd hefyd ar yr Unawd Sioe Gerdd yn y gystadleuaeth i rai dan 18, a chafodd gyntaf yn yr unawd dan 16 a chyntaf gyda’i gwaith Celf a Chrefft. Cafodd Erwan ail yng nghystadleuaeth y limrig, cafodd Gwion Ingram ail yn y gystadleuaeth Celf a Chrefft 21 ac iau, cafodd Non Bleddyn Jones drydydd gyda’i gwaith Rhyddiaith, ac fe gafodd Heledd Angell drydydd gyda’i brawddeg. Da iawn chi.

 

Yn symud ymlaen i’r Eisteddfod Genedlaethol, cafodd Lliwen drydydd gyda’i gwaith rhyddiaith yng nghystadleuaeth y goron, a’r wobr gyntaf gyda’i Limrig. Cafodd Ilan drydydd yn y gystadleuaeth unawd 28 ac iau, a chafodd Catrin Aur ail gyda’i gwaith Celf a Chrefft 18 ac iau.

 

Rhwng y ddwy Eisteddfod, cawsom noson hwyliog yn y Drenewydd yn bowlio deg.

Yn ogystal, ymunodd Iwan Lewis o’r sioe ‘Y Fets’ â ni ar gyfer un o’n nosweithiau clwb i drafod ei waith o ddydd i ddydd fel milfeddyg gydag ‘Ystwyth Vets’. Cawsom noson ddifyr iawn, a hyd yn oed rhywfaint o gyngor defnyddiol ynghylch sut i ofalu ar ôl ein hanifeiliaid anwes!

​

elin lliwen.PNG

MEDI/HYDREF 2021

Death yr amser unwaith eto i groesawi aelodau newydd i’r clwb, gyda noson barbeciw, a gemau hwyliog i ddechrau’r tymor newydd. Roedd hi’n noson llawn hwyl, a llond llaw o aelodau wedi ymuno â ni. Rydym wedi cadw at yr un rhai swyddogion a llynedd mwy neu lai gan nad oedd y flwyddyn dwethaf wedi bod un brysur iawn, ond wedi derbyn un swyddog newydd sef Catrin Aur, fel swyddog marchnata.

 

Draw i fferm Maesterran aethom wythnos wedyn, i ddysgu mwy am y cystadlaethau barnu stoc ac i ddechrau paratoi ar gyfer y diwrnod maes. Roedd yn noson addysgiadol a diddorol iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i deulu Maesterran am y croeso a’r hyfforddiant.

​

Yr wythnos ganlynol cawsom hwyl yn dod at ein gilydd i chwarae gemau bwrdd ac wedyn cawsom noson o Circuit Training gyda Kevin Hamilton, noson hwyliog, egniol a chwyslyd!

 

Ar y 3ydd o Hydref bu llawer o gystadlu a llwyddiant yn y Diwrnod Maes yn safle Marchnad Trallwng. Cafodd y clwb wobr gyntaf ac ail ar y ffensio hÅ·n, trydydd ar y ffensio iau, ac fe gafodd Nela Dafydd drydydd gyda’r cystadleuaeth trimio oen. Daeth Clwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi yn bumed ar y diwrnod; llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan.

Cofiwch ddilyn ein Instagram a Facebook @cffibroddyfi, er mwyn gweld beth sydd mlaen nesaf.

 

 

TACHWEDD 2020

Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfedd eleni i bawb, gan gynnwys i’n clwb ffermwyr ifanc ni. Rydym wedi colli allan ar lawer o gystadlaethau a digwyddiadau cyffrous; dim cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus, dim Rali, dim Sioe Frenhinol, dim Diwrnod Maes, nac Eisteddfod Ffermwyr Ifanc, a dim pigion. Ond diolch yn fawr iawn i Eirian Hughes am wneud cyfres o fideos ar Facebook o bigion Clwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi dros y blynyddoedd, roedd yn hyfryd gweld yr ôl-fflachiadau, a dwi’n siŵr eu bod nhw wedi dod a gwên i lawer o bobl, er y cyfnod annaturiol hwn.

​

Er gwaetha’r corona, rydym am geisio dal ati i gynnal nosweithiau clwb bob pythefnos, dros Zoom. Nos Wener, y 6ed, cawsom noson i groesawu’r aelodau newydd, drwy chwarae bingo a gemau hwyliog. Roedd yn braf cael gweld ein gilydd eto, a chawsom hwyl yn gwneud cwis adnabod enwau llefydd lleol drwy luniau cartŵnn. Yna cystadleuaeth fer: cyntaf i gasglu’r eitem ddisgrifiwyd yn y rhigwm. Roedd hi’n braf gweld gwynebau newydd yn rhan o’r clwb, er bod croeso i unrhywun ymuno eto.

 

Chwefror/Mawrth 2021

Mae'r mis diwethaf wedi bod yn un llwyddiannus i ni! Fe gipion ni y wobr gyntaf yn Eisteddfod Rithiol CFFI Maldwyn gyda 149 o bwyntiau!

A gwnaethom gynnal cyfarfod Zoom, i chwarae tasgau hwyliog ‘Task Master’.  

Rhwng y gwisgo i fyny, a’r creu, roedd ein noson ‘Task Master’ yn llawn adloniant. Rhoddodd pawb a ymunodd ymdrech wych, ond yn fuddugol ar y tasgau llawn digri, roedd Glain Lewis.  

Aeth yr Eisteddfod Rithiol yn arbennig i ni eleni, gyda Lliwen Glwys Jones yn ennill y gadair am y trydydd tro yn olynol! Tipyn o gamp! Hefyd, fe lwyddodd hi i ennill y gystadleuaeth llefaru o dan 27, a’r ddeuawd ddoniol gydag Elin Haf Williams. Cafodd ail yn y gystadleuaeth ‘Caricature’ o Bryony Wilson, Cadeirydd y Sir, ail ar ei limrig, ail yn yr unawd o dan 27, a thrydydd yn y gystadleuaeth canu emyn. Cipiodd Ilan Jones y wobr gyntaf yn yr unawd dan 27, a’r gystadleuaeth canu emyn. Am deulu llwyddiannus a thalentog!  

Yn fuddugol yn y gystadleuaeth cacennau bach roedd Branwen Sion, yn ogystal a thrydydd ar y limrig, a’r unawd offerynnol. Cafodd Mari Fflur Fychan gyntaf ar y llefaru 19 ac iau, yn ogystal â’r gystadleuaeth cân gyfoes. Yn y safle cyntaf gyda’r limrig oedd Hanna Eiddon Lewis, a chafodd Mari Elin Williams ail ar ei cherdd. Yn gyntaf ar yr unawd 19 ac iau roedd Glain Lewis, a Catrin Aur Evans yn drydydd. Cafodd Dyfan Parry Jones drydydd ar yr unawd dan 27, a chafodd Elin Evans drydydd gyda’r gystadleuaeth ‘Caricature’ o Bryony Wilson, Cadeirydd y Sir, a daeth fideo cerddoriaeth clwb Bro Ddyfi yn ail.  

Mae'r canlyniadau i'w gweld ar dudalen Facebook ‘Cffi Maldwyn Montgomery Yfc’, ac fe fydd y fideos a’r lluniau o’r cystadlaethau yn cael eu rhannu arno dros y cyfnod nesaf. Llongyfarchiadau i bawb, a phob lwc i'r aelodau sy'n mynd ymlaen i gynrychioli Cffi Bro Ddyfi a Maldwyn yn Eisteddfod Rithiol Cffi Cymru a fydd yn digwydd rhwng 29 a 31 o Fawrth.

​

Mawrth – Ebrill 2021

Gyda wyna yn cadw pawb yn brysur a sefyllfa’r feirws yn dal ‘run fath ni fu llawer yn digwydd dros y mis diwethaf o fewn y clwb ond mi fu Clwb Bro Ddyfi a Maldwyn yn llwyddiannus iawn gyda’r cystadlaethau a aeth yn eu blaen i Eisteddfod Genedlaethol Rithiol Clybiau Ffermwyr Ieuainc Cymru.

 

Dyma restr o’r gwobrau a gafwyd yn yr Eisteddfod:

  • Llongyfarchiadau mawr i Lliwen Glwys Jones am ennill y goron am ysgrifennu Stori Fer ar y thema Mwgwd.  

  • Cafodd Lliwen hefyd ail yn y gystadleuaeth llefaru dan 27.  

  • Cipiodd Lliwen ac Elin Haf y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth deuawd neu triawd doniol. 

  • Cafodd Ilan Jones drydydd yn y gystadleuaeth unawd dan 27, ac hefyd drydydd yn yr unawd emyn o dan 27.  

  • Cafodd Mari Fflur Fychan drydydd gyda’r llefaru o dan 19, a thrydydd yn y gystadleuaeth cân gyfoes wreiddiol o dan 27  

 

Braf yw cael dweud hefyd mai Maldwyn oedd y Sir fuddugol yn yr Eisteddfod eleni.  

Diolch i bawb am wneud eu gorau!

bottom of page